Mudiad Meithrin Cyf

Dirprwy Arweinydd Ystafell

CF38 1RQ

Key information

Pay
£25,564.50 to £26,344.50 a year
Hours
Full-time
Contract
Permanent
Workplace arrangement
On-site
Posted date
18 Nov 2026
Closing date
18 Dec 2026

About this role

Fel Dirprwy Arweinydd, byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth cefnogi’r Arweinydd i arwain rhediad dyddiol ystafell ofal o fewn y feithrinfa. Byddwch yn cynorthwyo i gefnogi’r tîm yn yr ystafell, gan fodelu arweiniad ac ymarfer da am blant sy’n defnyddio’r gwasanaeth.

Byddwch yn rhan o dîm cyfeillgar, ac yn gyfrifol am gefnogi pob plentyn i ddatblygu, dysgu a chwarae mewn awyrgylch croesawgar, diogel, hwyliog a llawn cariad, lle mae’r Gymraeg yn greiddiol i bopeth a wnawn.

Eich prif ddyletswyddau

Byddwch yn gweithio gyda’r

Arweinydd Ystafell i

Gofal ac Addysg

• Cefnogi’r Arweinydd gyda rhediad effeithlon yr ystafell

• Sicrhau fod pob plentyn yn derbyn gofal o’r safon uchaf ac yn derbyn sylw gofalgar, prydlon a chynhwysol

• Sicrhau fod pob plentyn a’u teulu’n cael eu trin gyda pharch gan gwrdd ag anghenion cymdeithasol ac emosiynol y plant

• Cydweithio gyda'r Arweinydd Ystafell a’r tîm i sicrhau darpariaeth ddigonol o adnoddau amrywiol sy’n addas i oedran y plant er mwyn hybu eu datblygiadau o fewn yr ystafell

• Cyfrannu at ddatblygiad dysgu ac addysgu meysydd Cwricwlwm i Gymru

• Gyda’r Arweinydd, cefnogi’r tîm i gynllunio profiadau a gweithgareddau fydd yn ateb anghenion bob plentyn ac yn eu galluogi i ddatblygu i’w llawn botensial

• Sicrhau y darperir gweithgareddau chwarae yn yr awyr agored fydd yn hybu datblygiad corfforol a chymdeithasol ac yn meithrin ymwybyddiaeth y plant o’u hamgylchedd

• Gweithredu system effeithiol o arsylwi a chofnodi cynnydd a datblygiad pob plentyn

• Sicrhau mai Cymraeg yw cyfrwng pob gweithgaredd a bod staff yn gweithredu’r Dull Trochi yn y feithrinfa

• Hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant, gwrthod rhagfarn, a mynd i’r afael â materion yn unol â Pholisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Arwain a Chefnogi Tîm o Staff, gan sicrhau’r canlynol

• Dirprwyo ar ran Arweinydd yr Ystafell yn ei h/absenoldeb

• Cynorthwyo i arwain tîm o staff

• Delio ag unrhyw faterion a godir gan staff a thrafod gyda'r Rheolwr yn absenoldeb yr Arweinydd Ystafell

• Cefnogi’r Arweinydd Ystafell i gynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda staff gan annog datblygiad proffesiynol parhaus

• Cefnogi’r Arweinydd Ystafell i ddatblygu rhaglenni gwaith addas

• Sicrhau ymarfer ac agweddau proffesiynol

Cydymffurfiaeth a Safonau

• Gyda’r Arweinydd Ystafell neu Reolwr cynorthwyo gydag arwain a chefnogi’r tîm trwy arolygon Arolygiaeth Gofal Cymru, ESTYN a Dechrau’n Deg a chynlluniau rhagoriaeth berthnasol

• Dilyn canllawiau, gweithdrefnau a pholisïau y ddarpariaeth

• Cefnogi’r Arweinydd i sicrhau bod pawb yn yr ystafell yn cydymffurfio â Safonau Gofynnol a Rheoliadau Arolygiaeth Gofal Cymru

• Cefnogi’r tîm i weithredu holl agweddau diogelu/amddiffyn plant, gan gydweithio â’r asiantaethau statudol, a mynychu cynadleddau achos lle bo angen

Cyffredinol

• Bod yn broffesiynol a mynychu cyfarfodydd yn ôl yr angen

• Ymrwymo i ddatblygiad proffesiynol parhaus. Bydd disgwyl i staff fynychu hyfforddiant yn achlysurol ar benwythnosau

• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau ychwanegol sy’n berthnasol i’r swydd yn ôl cyfarwyddyd yr Arweinydd/Rheolwr