South Wales Fire and Rescue Service
PEIRIANNYDD CYFATHREBIADAU DTD (TGCH)
Pontyclun CF72 8LX
Key information
- Pay
- £35,570 to £37,563 a year
- Hours
- Full-time
- Contract
- Permanent
- Workplace arrangement
- On-site
- Posted date
- 10 Nov 2026
- Closing date
- 27 Nov 2026
About this role
Dylech chi gyflwyno eich cais erbyn: 27ain o Dachwedd 2026 am 12:00, canol dydd
Mae trawsnewid digidol, data a thechnoleg i gyd yn chwarae rhan ganolog yn y ffordd yr ydym yn darparu ein gwasanaethau gan gynnwys danfon criwiau a chael mynediad at wybodaeth risg hanfodol a rheoli adnoddau a chefnogi swyddogaethau cefn swyddfa. Wrth i ni barhau i foderneiddio, mae trawsnewid digidol yn ein helpu i adeiladu systemau mwy craff a chysylltiedig sy'n gwella ymatebolrwydd, yn gwella gwneud penderfyniadau, ac yn cryfhau diogelwch cymunedol.
Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, profiadol a rhagweithiol i ymuno â'n Hadran Data Digidol a Thechnoleg (DDaTh) fel Peiriannydd o fewn ein Tîm Cyfathrebu.
Mae hon yn rôl dechnegol amrywiol, ymarferol sy'n cefnogi'r seilwaith hydwyth, diogel a dibynadwy sy'n sail i wasanaethau gweithredol a chorfforaethol hanfodol. Yn unol â disgrifiad y swydd, bydd deiliad y swydd yn darparu cefnogaeth rheng flaen ac ail reng, diagnosteg, cynnal a chadw ac atgyweirio ar draws rhwydweithio a waliau tân, Terfynellau Data Symudol (MDT), teleffoni digidol, offer danfon mewn perthynas â gorchymyn a rheoli ill ddau, a systemau radio digidol ac analog gan gynnwys y rhai cludadwy a’r rhai ar gerbydau. Mae'r rôl hefyd yn cynnwys cefnogi antenâu allanol ac offer cyfathrebu cysylltiedig, cynnal cofnodion asedau cywir, a gweithio gyda chydweithwyr a chontractwyr allanol i gadw gwasanaethau hanfodol yn gweithredu'n effeithiol.
Mae elfen ymarferol sylweddol i’r rôl ac nid yw'n seiliedig ar waith swyddfa yn unig. Gall dyletswyddau gynnwys gweithio ar ac o gwmpas cerbydau'r Gwasanaeth i osod, archwilio, profi, cynnal a chadw neu ailosod offer cyfathrebu a’u danfon; cael mynediad at antenâu ac offer allanol; ac ymgymryd â gwaith yn yr awyr agored ar safleoedd y Gwasanaeth mewn tywydd amrywiol. Felly, dylai ymgeiswyr fod yn hyderus wrth gyflawni gwaith technegol ymarferol mewn amgylcheddau gweithredol, gan ddilyn systemau gwaith diogel a chymryd gofal rhesymol am eu hiechyd a'u diogelwch eu hunain ac eraill. Rydym yn chwilio am rywun â sylfaen dechnegol gadarn, dull systematig o ganfod namau a pharodrwydd i ddatblygu ar draws yr ystod lawn o systemau cyfathrebu DDaTh. Mae'r gallu i gyfathrebu'n glir â chydweithwyr technegol a’r rhai nad ydynt yn dechnegol, dilyn gweithdrefnau a gweithio'n effeithiol fel rhan o dîm yn hanfodol. Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ond nid yn hanfodol.
•
Cytundeb
Parhaol
•
Gradd
9
•
Cyflog
£35,570 - £37,563 y flwyddyn
•
Oriau Gwaith
37 awr yr wythnos
•
Cyfarwyddiaeth
Digidol, Data a Thechnoleg - Gwasanaethau Technegol
•
Cyfeirnod Swydd
503264
•
Lleoliad
Pencadlys y Gwasanaeth Tân