South Wales Fire and Rescue Service

RHEOLWR SEILWAITH DDaTh (TGCh)

Pontyclun CF72 8LX

Key information

Pay
£44,253 to £45,529 a year
Hours
Full-time
Contract
Permanent
Workplace arrangement
On-site
Posted date
10 Nov 2026
Closing date
27 Nov 2026

About this role

Dylech chi gyflwyno eich cais erbyn: 27ain o Dachwedd 2026 am 12:00, canol dydd

Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn yr Adran Ddigidol, Data a Thechnoleg (DDaTh) ar gyfer Rheolwr Seilwaith DDaT profiadol a brwdfrydig.

Yn y rôl arwain allweddol hon, byddwch yn gyfrifol am reoli'n effeithiol yr holl ddarpariaeth gwasanaeth, cymorth a swyddogaethau gweinyddol ar draws Tîm Seilwaith DDaTh, gan sicrhau darpariaeth gwasanaethau technoleg sy'n wydn, yn ddiogel ac yn perfformio ar lefel uchel ledled y Gwasanaeth.

Byddwch yn arwain portffolio amrywiol o brosiectau seilwaith, tra'n goruchwylio gweithrediadau dyddiol y tîm. Mae hyn yn cynnwys datblygu a gweithredu cynlluniau busnes strategol, rheoli cyllidebau, a chaffael nwyddau a gwasanaethau yn unol â rheoliadau'r sector cyhoeddus ac arfer gorau.

Fel arweinydd sy'n canolbwyntio ar bobl, byddwch yn gyfrifol am ysgogi, datblygu a chefnogi staff, gan sicrhau bod y tîm yn cynnal y sgiliau, y wybodaeth a'r hyblygrwydd sydd eu hangen i fodloni gofynion sefydliadol a thechnolegol sy'n esblygu.

Mae hwn yn gyfle gwych i reolwr profiadol ysgogi arloesedd, gwella darpariaeth gwasanaeth, a chwarae rhan hanfodol wrth lunio dyfodol gwasanaethau digidol o fewn Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

•

Cytundeb

Parhaol

•

Gradd

13

•

Cyflog

£44,253 - £45,529 per annum

•

Oriau Gwaith

37 awr yr wythnos

•

Cyfarwyddiaeth

Digidol, Data a Thechnoleg, Gwasanaethau Technegol

•

Cyfeirnod Swydd

502866

•

Lleoliad

Pencadlys, Llantrisant