Mudiad Meithrin Cyf

Cynorthwyydd Gofal a Chwarae Plant 2-3 oed

CF38 1RQ

Key information

Pay
£25,174.50 to £25,954.50 a year
Hours
Full-time
Contract
Permanent
Workplace arrangement
On-site
Posted date
18 Nov 2026
Closing date
18 Dec 2026

About this role

Fel Cynorthwyydd Meithrin, byddwch yn chwarae rhan allweddol yn gofalu am blant sy’n defnyddio’r gwasanaeth. Byddwch yn rhan o dîm cyfeillgar, ac yn gyfrifol am gefnogi pob plentyn i ddatblygu, dysgu a chwarae mewn awyrgylch croesawgar, diogel, hwyliog a llawn cariad, lle mae’r Gymraeg yn greiddiol i bopeth a wnawn.

Eich prif ddyletswyddau

Byddwch yn gweithio gyda’r

Rheolwr ac Arweinydd Ystafell i

Gofal ac Addysg

• Cefnogi’r Arweinydd i sicrhau darpariaeth a gwasanaeth o’r safon uchaf drwy ddatblygu gweithgareddau a chyfleusterau i’w botensial llawn

• Cefnogi'r Arweinydd/Rheolwr i sicrhau fod pob plentyn a’u teulu’n cael eu trin gyda pharch gan gwrdd ag anghenion cymdeithasol ac emosiynol y plant

• Darparu gofal ac addysg o’r radd flaenaf i blant tra yn ein gofal

• Cefnogi’r nod o greu naws ac awyrgylch Cymraeg a Chymreig o fewn y ddarpariaeth, gan weithredu’r Dull Trochi

• Cyfrannu at gynllunio gwaith a gweithgareddau’r feithrinfa yn y tymor byr a’r tymor hir

• Gweithredu egwyddorion a nodau Cwricwlwm i Gymru

• Cefnogi’r tîm i fonitro, gwerthuso ac asesu cynnydd a datblygiad pob plentyn

• Hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant, gwrthod rhagfarn, a mynd i’r afael â materion yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Cydymffurfiaeth â

Safonau

• Cefnogi’r Arweinydd i sicrhau cydymffurfiaeth a chynlluniau Addysg Feithrin a’r Cynnig Gofal Plant

• Cydymffurfio â Safonau Gofynnol a Rheoliadau Gofal Plant a Chwarae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)

• Dilyn canllawiau, gweithdrefnau a pholisïau y ddarpariaeth

• Dilyn gweithdrefnau Diogelu ac Amddiffyn plant ar bob adeg

Cyffredinol

• Bod yn broffesiynol a mynychu cyfarfodydd yn ôl yr angen

• Ymrwymo i ddatblygiad proffesiynol parhaus. Bydd disgwyl i staff fynychu hyfforddiant yn achlysurol ar benwythnosau

• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau ychwanegol sy’n berthnasol i’r swydd yn ôl cyfarwyddyd yr Arweinydd/Rheolwr