South Wales Fire and Rescue Service
SWYDDOG AMLGYFRWNG AC YMGYSYLLTU
Pontyclun CF72 8LX
Key information
- Pay
- £33,673 to £34,911 a year
- Hours
- Full-time
- Contract
- Permanent
- Workplace arrangement
- On-site
- Posted date
- 13 Nov 2026
- Closing date
- 4 Dec 2026
About this role
Dylech chi gyflwyno eich cais erbyn: Dydd Gwener, 4ydd Rhagfyr 2026 am 12:00, canol dydd
Disgwylir i'r rhestr fer gael ei llunio: w.y.d 7fed Rhagfyr 2026
Disgwylir
I’r cyfweliadau gael eu cynnal
w.y.d 16eg Rhagfyr 2026
Dyma gyfle cyffrous i ymuno â thîm Cyfathrebu ac Ymgysylltu blaengar, gan helpu i lunio'r ffordd yr ydym yn cysylltu â'n cymunedau a'n cydweithwyr drwy gynnwys amlgyfrwng creadigol a deniadol.
Rydym yn chwilio am Swyddog Amlgyfrwng ac Ymgysylltu newydd a fydd yn dod â'n Gwasanaeth a'i flaenoriaethau'n fyw drwy ffotograffiaeth, fideo, animeiddio, dylunio digidol ac adrodd storïau gweledol gafaelgar. Gan weithio ar draws ein Gwasanaeth, byddwch yn creu cynnwys o ansawdd uchel ar gyfer ymgyrchoedd a sianeli digidol, gan ddod o hyd i ffyrdd creadigol o adrodd straeon ein pobl, ein gwaith a'r gwahaniaeth yr ydym yn ei wneud yn ein cymunedau.
Mae hwn yn rôl amrywiol lle bydd pob dydd yn wahanol. Gallech fod yn creu cynnwys ar gyfer ymgyrch fawr, tynnu lluniau neu ffilmio fideo yn un o'n lleoliadau, datblygu graffeg ar gyfer ein sianeli digidol, neu gefnogi gweithgareddau cyfathrebu yn ystod digwyddiad gweithredol. Ni fyddwch yn ymateb i friffiau yn unig. Rydym eisiau rhywun a fydd yn gweld cyfleoedd, yn cynnig syniadau ac yn ein helpu i ddod o hyd i ffyrdd newydd a deniadol o gyrraedd ein cynulleidfaoedd.
Byddwch yn rhan o dîm cefnogol sy'n gwerthfawrogi creadigrwydd, cydweithio a gwelliant parhaus. Os ydych yn adroddwr straeon creadigol sy'n mwynhau troi syniadau yn gynnwys deniadol, yn ffynnu mewn amgylchedd prysur ac eisiau defnyddio eich sgiliau mewn rôl sy'n gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
•
Cytundeb
Amser llawn, parhaol
•
Gradd
8
•
Cyflog
£33,673 - £34,911 ynghyd â lwfans ar alwad pan fyddwch yn rhan o'r rota ar alwad
•
Oriau Gwaith
37 awr yr wythnos
•
Cyfarwyddiaeth
Cyfryngau a Chyfathrebu
•
Lleoliad
Pencadlys y Gwasanaeth Tân, Parc Busnes Forest View, Llantrisant