Ceredigion County Council

Teaching Assistant Level 2 x 2 - Ysgol Bro Teifi

SA46 0PA

Key information

Pay
from £26,016 a year, pro rata
Hours
Part-time
Contract
Permanent
Workplace arrangement
On-site
Posted date
21 Oct 2026
Closing date
1 Nov 2026

About this role

The following is an advert where the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.

Mae Llywodraethwyr Ysgol Bro Teifi yn awyddus i benodi dau Gynorthwy-ydd Addysgu Lefel 2 i ymuno ag Adran Anghenion Dysgu Ychwanegol yr ysgol. Bydd un o’r swyddi’n cefnogi disgyblion oed cynradd, a’r llall yn cefnogi disgyblion oed uwchradd, gan eu helpu i wneud cynnydd yn eu dysgu a’u datblygiad. Mae Ysgol Bro Teifi yn ymfalchïo yn ei hethos gynhwysol, a bydd disgwyl i’r ymgeiswyr llwyddiannus gefnogi ein hegwyddorion craidd a gweithio’n effeithiol fel rhan o dîm cynhwysiant yr ysgol.

Nodwch yn eich datganiad cefnogol a hoffech wneud cais am y swydd Cynradd, y swydd Uwchradd, neu’r ddwy swydd.

Manylion y swydd

  • Goruchwylio a chefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol gan sicrhau eu bod yn ddiogel a bod ganddynt fynediad at ddysgu.
  • Sefydlu perthynas dda gyda’r disgyblion, gan weithredu fel patrwm ymddwyn, a bod yn ymwybodol o anghenion unigol ac ymateb yn briodol iddynt.
  • Annog disgyblion i ryngweithio ag eraill ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau o dan arweiniad yr athro neu’r athrawes.
  • Annog disgyblion i weithredu’n annibynnol, fel y bo’n briodol.
  • Cefnogi’r athro neu’r athrawes gyda’r gwaith o reoli ymddygiad disgyblion, gan gyflwyno adroddiad ar anawsterau, fel y bo’n briodol.
  • Cefnogi disgyblion i gael mynediad i’r cwricwlwm.

Agorwyd Ysgol Bro Teifi ym Medi 2016, yn dilyn buddsoddiad o £30m gan Gyngor Sir Ceredigion a Llywodraeth Cymru. Bro Teifi ydy’r ysgol pob-oed, cyfrwng Cymraeg cyntaf yng Nghymru ac mae’n cynnig cyfleusterau dysgu o’r radd flaenaf ar gyfer yr holl ddisgyblion, o’r lleiaf i’r hynaf.

Mae’r gallu i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person [https://hreforms.ceredigion.gov.uk/ufs/jdps/REQ106953.pdf]

Os am drafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r swydd hon, cysylltwch â Phennaeth Ysgol Bro Teifi, Mr Gareth Evans ar 01559 362503 neu drwy e-bost, EvansG304@broteifi.ceredigion.sch.uk.

Noder

Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

For more details regarding this vacancy, please refer to the full job description on the Ceredigion County Council careers website.