eTeach UK Limited
Derbynnydd / Receptionist
Caerdydd CF23 9DT
Key information
- Pay
- GRADDFA CYFLOG: GRADD 3, PWYNTIAU 3 - 6. PRO RATA
- Hours
- Part-time
- Contract
- Contract
- Workplace arrangement
- On-site
- Posted date
- 20 Oct 2026
- Closing date
- 2 Nov 2026
About this role
Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, trefnus a chyfeillgar i ymuno â'n tîm gweinyddol fel Derbynnydd / Swyddog Cymorth Gweinyddol. Mae hon yn swydd ran amser am 13 awr yr wythnos, gan weithio ar ddydd Llun a dydd Mawrth.Fel aelod allweddol o dîm yr ysgol, byddwch yn gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf i ymwelwyr, rhieni, disgyblion ac aelodau staff. Byddwch yn gyfrifol am sicrhau croeso cynnes a phroffesiynol i bawb sy'n ymweld â'r ysgol, ynghyd â darparu cymorth gweinyddol effeithiol sy'n cefnogi gweithrediad dyddiol yr ysgol.Bydd y rôl yn cynnwys rheoli'r dderbynfa, ateb galwadau ffôn ac ymholiadau wyneb yn wyneb, prosesu gohebiaeth, cynnal cofnodion gweinyddol a darparu cymorth gweinyddol cyffredinol. Bydd y swydd hefyd yn cynnwys cefnogi trefniadau dyddiol yr ysgol a chynorthwyo disgyblion, staff ac ymwelwyr fel bo'r angen.Rydym yn chwilio am ymgeisydd sydd â sgiliau cyfathrebu rhagorol, sy'n gallu gweithio'n effeithiol fel rhan o dîm ac sydd â'r gallu i drefnu a blaenoriaethu gwaith mewn amgylchedd prysur. Bydd profiad blaenorol o waith gweinyddol a sgiliau TG da yn fantais.Gan fod y Gymraeg wrth galon ein hysgol a'n cymuned, mae'r gallu i gyfathrebu'n rhugl yn Gymraeg ac yn Saesneg, ar lafar ac yn ysgrifenedig, yn ofyniad hanfodol ar gyfer y swydd hon.Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn cynnig cyfle gwych i ymuno ag ysgol lwyddiannus sy'n rhoi blaenoriaeth i les, datblygiad a llwyddiant pob unigolyn. Edrychwn ymlaen at dderbyn ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n rhannu ein gwerthoedd ac sydd am gyfrannu at fywyd a datblygiad ein cymuned ysgol.Mae'r ysgol wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc. Bydd y penodiad yn amodol ar wiriadau cyflogaeth a gwiriad DBS manwl.Dyddiad Dechrau - 9/11/26 (Neu mor gynted a phosib ar ôl y dyddiad)