eTeach UK Limited
Cynorthwyydd Dysgu
CF39 9HA
Key information
- Pay
- Gradd 4
- Hours
- Full-time
- Contract
- Permanent
- Workplace arrangement
- On-site
- Posted date
- 15 Oct 2026
- Closing date
- 24 Oct 2026
About this role
Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Cwm Rhondda yn awyddus i benodi cynorthwyydd addysgu brwdfrydig a dibynadwy i ddod yn aelod o dîm cynhwysiant yr ysgol.Chwiliwn am ymgeisydd egnïol a hyblyg fydd yn medru ymdopi â’r her o gefnogi ystod eang o ddysgwyr o fewn yr adran gynhwysiant ac yn ystod y diwrnod ysgol. Bydd y rôl yn canolbwyntio ar hyrwyddo cynhwysiant a chynnydd dysgwyr drwy gefnogi gweithgareddau dysgu mewn gwahanol amgylcheddau.Gwahoddir ceisiadau gan unigolion sy’n meddu ar frwdfrydedd heintus ac sy’n awyddus i weithio yma yn Ysgol Gyfun Gymraeg Cwm Rhondda.Y rôl
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn
arwain a chefnogi sesiynau gwaith ac ymyrraeth ar gyfer unigolion a grwpiau bach o ddysgwyr,gweithio’n agos gyda staff addysgu a’r tîm cynhwysiant i gefnogi cynnydd dysgwyr,cynorthwyo dysgwyr i gymryd rhan lawn mewn gweithgareddau dysgu ar draws yr ysgol,darparu cefnogaeth hyblyg o fewn gwahanol amgylcheddau dysgu (gan gynnwys o fewn y dosbarth ar adegau),hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol a lles dysgwyr,cyfrannu at ethos cynhwysol yr ysgol a bywyd ehangach yr adran.Nid yw profiad blaenorol mewn addysg yn hanfodol, ond byddai’n fantais.Rydym yn chwilio am rywun sy’n:meddu ar sgiliau cyfathrebu cryf ac yn meithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda dysgwyr,hyblyg ac yn gallu addasu i anghenion gwahanol ddysgwyr a sefyllfaoedd,ymrwymedig i gynhwysiant, tegwch a lles pob dysgwr,gallu gweithio’n effeithiol fel rhan o dîm,dangos agwedd gadarnhaol, frwdfrydig ac yn gallu ysgogi dysgwyr,trefnus a dibynadwy yn ei waith dyddiol,ymrwymedig i addysg Gymraeg ac yn cefnogi’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru.Ynglŷn â’r ysgolMae gweledigaeth yr ysgol “Dyheu. Dysg. Daioni.” yn amlinellu ein hymrwymiad i ragoriaeth, tegwch a lles, ac mae’n tanategu pob agwedd o fywyd yr ysgol. Mae Cymreictod a pharch yn greiddiol i’n hethos: parch at ein hunain, parch at eraill a’n hamgylchfyd, a balchder yn ein hiaith, ein diwylliant a’n llwyddiannau ar y cyd. Lleoliad a chyfleusterauMae’r ysgol yn gwasanaethu dalgylch eang ar draws Cwm Rhondda, gyda chysylltiadau rhwydd o fod wedi’i lleoli yn y Porth – tua 20 munud o Gaerdydd ac 20 munud o Ben-y-bont.Ysgol Newydd i
Ysgol Gyfun Gymraeg Cwm Rhondda
Bydd yr ysgol hefyd yn elwa o ysgol newydd sbon yr 21ain Ganrif, yn dilyn buddsoddiad sylweddol gyda chefnogaeth Cyngor RhCT a Llywodraeth Cymru, a gwaith adeiladu eisoes ar y gweill.Ymholiadau anffurfiolAm drafodaeth anffurfiol am y rôl, cysylltwch â'r CADY Mrs Rhian Roberts.DiogeluMae Ysgol Gyfun Gymraeg Cwm Rhondda wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun gwiriadau cyn-gyflogaeth priodol, gan gynnwys gwiriad DBS uwch a geirdaon boddhaol.