Conwy County Borough Council
REQ007481 - Educational Psychologist
LL29 7AZ
Key information
- Pay
- Salary not listed
- Hours
- Full-time
- Contract
- Permanent
- Workplace arrangement
- Hybrid - 1 day remote
- Posted date
- 14 Oct 2026
- Closing date
- 28 Oct 2026
About this role
Anogir Seicolegwyr Addysg Dan Hyfforddiant ym Mlynyddoedd 2 a 3 i wneud cais.
Ydych chi’n chwilio am eich swydd Seicolegydd Addysg gyntaf mewn gwasanaeth lle cewch eich cefnogi, eich gwerthfawrogi a’ch annog i ddatblygu?
Mae Gwasanaeth Seicoleg Addysg Conwy yn un cyfeillgar, sefydledig a hynod gefnogol yma yn un o ardaloedd harddaf gogledd Cymru. Rydym ni’n chwilio am Seicolegwyr Addysg brwdfrydig a Seicolegwyr Addysg Dan Hyfforddiant ym mlynyddoedd 2 neu 3 sydd eisiau datblygu eu hymarfer mewn gwasanaeth sydd wedi ymrwymo i gydraddoldeb mewn addysg, cydweithio a thwf proffesiynol parhaus.
Rydym ni’n falch iawn o ddiwylliant cefnogol ein tîm lle mae seicolegwyr yn cydweithio, yn rhannu arbenigedd ac yn cefnogi ei gilydd. Pa un ai ydych chi ar fin cymhwyso neu wedi cymhwyso’n barod, byddwch yn derbyn goruchwyliaeth o’r radd flaenaf a chyfleoedd i ddatblygu eich hyder, sgiliau a’ch diddordebau proffesiynol.
Beth all Conwy ei gynnig i chi?
• Tîm croesawgar, profiadol a chefnogol o fewn gwasanaeth addysg ehangach sy’n uchelgeisiol, ymroddedig ac wedi’i integreiddio'n dda
• Rhaglen fentora a gorchwylio o ansawdd uchel a flaenoriaethir, yn cynnwys goruchwyliaeth grŵp bob pythefnos
• Cyfleoedd i weithio ochr yn ochr ag ymarferwyr profiadol ac uwch-seicolegwyr
• Trefniadau gweithio hyblyg
• Rôl amrywiol ar draws lleoliadau prif ffrwd ac arbennig
• Cyfleoedd i gyfrannu at ymarfer arloesol a datblygiad y gwasanaeth
• Ymrwymiad cryf i ddatblygiad proffesiynol parhaus
• Gwaith amlasiantaeth agos gydag ysgolion, iechyd a phartneriaid gofal cymdeithasol
• Cyfle i fyw a gweithio mewn ardal arfordirol a gwledig hyfryd, gyda Pharc Cenedlaethol Eryri ar garreg eich drws
Mae seicoleg addysg yn chwarae rôl ganolog yng ngwasanaethau ADY Conwy. Fel gwasanaeth eithaf bach, mae gan ein seicolegwyr gyfle go iawn i gyfrannu at ddatblygiad y gwasanaeth, i siapio ymarfer lleol ac i leisio eu barn.
Dyma gyfle cyffrous i ymuno â gwasanaeth a arweinir gan werthoedd sy’n defnyddio seicoleg addysg ar lefel unigol, grŵp a systemig, ac sydd wedi ymrwymo i wella canlyniadau plant a phobl ifanc.