Caerphilly County Borough Council

Arweinydd Dysgu & Addysgu

CF81 9FN

Key information

Pay
£33,731 to £33,731 a year
Hours
Part-time
Contract
Permanent
Workplace arrangement
On-site
Posted date
9 Oct 2026
Closing date
4 Nov 2026

About this role

Rydyn ni'n recriwtio Arweinydd Dysgu & Addysgu yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Oriau gwaith

32.50 oriau yr wythnos

Math o gontract

Llawn Amser, Parhaol

Lleoliad

Ysgol Bro Sannan

Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i ddod yn rhan o'n tîm ni a darparu cymorth ar draws y sefydliad.

Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £33,731 - £51,942 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu.

Mae'r swydd hon yn denu TLR o £8,764 y flwyddyn, yn ychwanegol at y cyflog blynyddol.

Mae'r Llywodraethwyr yn ymrwymedig i benodi arweinydd sydd

yn arweinydd cadarn a theg;

yn gallu ysbrydoli staff brwdfrydig;

yn rhannu arfer dda yn rheolaidd;

yn gallu datblygu staff yn effeithiol;

yn gweithio’n dda o dan bwysau;

yn gallu cyfrannu’n dda at benderfyniadau strategol;

yn unigolyn gyda chefndir o addysgu rhagorol yn yr ystafell ddosbarth, gyda gweledigaeth glir ac ymrwymiad i addysg o safon uchel;

yn unigolyn sydd â disgwyliadau uchel o ran cyrhaeddiad ac ymddygiad disgyblion;

yn unigolyn uchelgeisiol sy’n mwynhau her;

yn sefydlu a chynnal perthynas gadarnhaol gyda rhieni a gofalwyr, aelodau o'r Corff Llywodraethol a'r gymuned ehangach.

Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal ar Dydd Gwener 13eg o Dachwedd.

Ar gyfer y rôl, gofynnwn i chi

Statws Athro Cymwysedig a wedi cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg ar hyn o bryd.

Tystiolaeth o brofiad perthnasol llwyddiannus o addysgu, yn cynnwys ymarfer addysgu.

Y gallu i greu amgylchedd dysgu heriol ac effeithiol a meddu ar sgiliau effeithiol i reoli disgyblion.

Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Athrawon Leol a chynlluniau disgownt i staff.

I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau.

Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Jamie Hallett ar 01443 828000 neu ebost: HallettJ22@sch.caerphilly.gov.uk

Ffurflenni cais ar gael o wefan ETEACH neu’r ysgol.