eTeach UK Limited
Goruchwylydd Gwersi
Mold CH7 1JB
Key information
- Pay
- Pro Rata £17,663 - £18,520
- Hours
- Part-time
- Contract
- Permanent
- Workplace arrangement
- On-site
- Posted date
- 20 Nov 2026
- Closing date
- 4 Dec 2026
About this role
Mae'r Llywodraethwyr yn awyddus i benodi Goruchwylydd Gwersi i oruchwylio dysgwyr pan fydd athro mewn cyfarfod neu yn absennol.Prif ddiben y swydd yw cyflwyno gwaith sydd wedi cael ei osod yn absenoldeb yr athro/athrawes sydd fel arfer yn gyfrifol am addysgu dosbarth penodol.Gall y swydd fod yn un dros dro am flwyddyn neu yn barhaol. Gall fod yn gyfle gwych i unigolyn sydd yn ystyried hyfforddi fel athro neu athrawes yn y dyfodol ennill profiad o weithio gyda dysgwyr uwchradd.
Gweler y swydd ddisgrifiad am fanylion penodol y swydd
Telerau'r swydd
Cytundeb blwyddyn neu barhaol
Oriau gwaith 28.75 awr yr wythnos, 39 wythnos y flwyddyn.
Mae’n hanfodol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn medru cyfathrebu’n rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg ar lafar ac yn ysgrifenedig ynghyd â dangos ymrwymiad amlwg tuag at weithio mewn ysgol cyfrwng Cymraeg.
Mae'r gallu i ffurfio perthynas adeiladol gyda dysgwyr a gweithredu fel model rôl yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth os gwelwch yn dda. Mae'r penodiad yn amodol ar Ddatgeliad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, cofrestriad CGA a geirdaon boddhaol.Graddfa gyflog Statws Sengl Sir y Fflint 1.3 (oddeutu £17,663 - £18,520)