eTeach UK Limited
Cynorthwyydd Dysgu (Lefel 2 / Gradd 4)
Caerdydd CF23 9DT
Key information
- Pay
- Graddfa Cyflog: Gradd 4 (Pwyntiau 6–11, pro rata)
- Hours
- Full-time
- Contract
- Contract
- Workplace arrangement
- On-site
- Posted date
- 19 Nov 2026
- Closing date
- 27 Nov 2026
About this role
Mae’r ysgol yn awyddus i benodi unigolion brwdfrydig i swydd llawn amser yn yr Adran Anghenion Dysgu Ychwanegol. Dyma gyfle arbennig i weithio o fewn tîm sydd â’u bryd ar gynorthwyo disgyblion yn eu dysgu ac i wella sgiliau sylfaenol disgyblion mewn sesiynau un i un, mewn grwpiau bychain ac o fewn yr ystafell ddosbarth.Wrth weithio ym Mro Edern, byddwch yn ymuno â thîm profiadol ac arbeingol sy’n gweithio yn gydlynus i gefnogi ein disgyblion sydd yn datblygu sgiliau sylfaenol mewn amgylchedd gartrefol o fewn ein cymuned.Bydd disgwyl i’r ymgeiswyr llwyddiannus fod gydag awydd clir i weithio gyda phlant a phobl ifanc er mwyn gwneud gwahaniaeth i’w datblygiad a’u cynnydd o fewn yr ysgol. Byddwn yn edrych am unigolion dynamig sydd yn gweithio yn dda fel rhan o dîm ac sydd â’r weledigaeth fod addysg yn gallu gwneud gwahaniaeth i fywyd a chyfleoedd plant a phobl ifanc. Mae angen amynedd i weithio gyda phlant sy’n gallu teimlo’n rhwystredig o fewn ysgol a’r ddawn i argyhoeddi a chymell unigolion i roi o’u gorau ac i ddyfalbarhau er mwyn llwyddo.Byddwn yn darparu hyfforddiant a chynhaliaeth i berson sy’n chwilio am ddatblygu gyrfa ym myd addysg. Yn sicr, mae’r swydd a’r ysgol yn cynnig datblygiad gyrfa cyffrous ac unigryw.Edrychwn am unigolion fyddai’n frwd i gyfrannu yn llawn at fywyd allgyrsiol a chyfoethog yr ysgol.