eTeach UK Limited
Swyddog Cymorth Dysgu (Cyfnod Mamolaeth) - Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd
Betws CF32 8TD
Key information
- Pay
- 19,546.00 - 20,183.00
- Hours
- Part-time
- Contract
- Contract
- Workplace arrangement
- On-site
- Posted date
- 19 Nov 2026
- Closing date
- 9 Dec 2026
About this role
30 awr yr wythnos
Tymor yr Ysgol
Dros dro (Cyfnod Mamolaeth) - i gychwyn 04.01.26
I gychwyn Ionawr 2027
O ganlyniad i ddyrchafiadau a chyfleoedd datblygu proffesiynol o fewn yr ysgol, mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd yn dymuno penodi Swyddog Cymorth Dysgu llawn cymhelliant a brwdfrydedd i ymuno â'n tîm ymroddgar, arloesol a chreadigol.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio mewn ysgol Gymraeg flaengar sy'n darparu amgylchedd dysgu ysgogol, gofalgar a chynhwysol lle mae pob plentyn yn cael ei werthfawrogi a'i gefnogi i wireddu ei botensial. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n agos gyda staff addysgu i gefnogi dysgu disgyblion ac i gyfrannu at gynnal safonau uchel o addysgu a dysgu ar draws yr ysgol.
Rydym yn chwilio am unigolyn sydd:â phrofiad o weithio gyda phlant mewn lleoliad addysgol neu debyg;yn gallu meithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda disgyblion, staff a rhieni;yn gweithio'n effeithiol fel rhan o dîm;â sgiliau llythrennedd, rhifedd a TGCh da;yn gallu cyfathrebu'n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg.Bydd dyletswyddau'r rôl yn cynnwys:cefnogi dysgu disgyblion unigol a grwpiau bach;cynnal gweithgareddau dysgu strwythuredig;monitro cynnydd disgyblion a rhoi adborth i athrawon;cynorthwyo gyda goruchwyliaeth yn ystod amseroedd chwarae a gweithgareddau ysgol;cyfrannu at greu amgylchedd dysgu diogel, trefnus a chefnogol.Mae'n ofyniad hanfodol eich bod yn gallu sgwrsio ac ymateb i ohebiaeth yn Gymraeg, gyda hyder ac yn rhwydd.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau
09 Rhagfyr 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer
12 Rhagfyr 2026
Dyddiad y Cyfweliad
14 Rhagfyr 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person