South Wales Fire and Rescue Service
Prentis Cyllid
CF72 8LX
Key information
- Pay
- £25,583 - £25,989
- Hours
- Full-time
- Contract
- Contract
- Posted date
- 17 Jul 2026
- Closing date
- 7 Aug 2026
About this role
Ymgeisiwch erbyn
07/08/2026 am 12:00, hanner dydd
Disgwylir llunio rhestr fer
w/c 10/08/2026
Disgwylir cynnal cyfweliadau
w/c 17/08/2026
Oes gennych chi ddiddordeb mewn dechrau gyrfa ym maes Cyllid? Ydych chi'n frwdfrydig ac yn drefnus, ac oes gennych chi ddiddordeb mewn cael profiad gwaith â thâl wrth ennill cymwysterau cydnabyddedig? Swydd dair blynedd yw hon lle byddwch yn ymgymryd â gweithgareddau ariannol yn ein Pencadlys yn Llantrisant.
Rydym yn falch o fod yn rhan o Raglen Brentisiaethau Cymru, sy'n darparu cyfleoedd gwerthfawr i brentisiaid ddatblygu sgiliau a phrofiadau sy'n gysylltiedig â gwaith, ac ennill cymhwyster. Mae'r cynllun hefyd yn galluogi prentisiaid i chwarae rhan bwysig wrth ein helpu i ddarparu gwasanaeth i'n cymunedau.
Bydd y
Brentisiaeth yn gyfle i chi
• Ennill profiad gyda chyflogwr ag enw da mewn sefydliad mawr
• Datblygu sgiliau sy'n berthnasol i'r gwaith a fydd yn cynyddu eich cyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol
• Sicrhau cymwysterau Cyfrifeg AAT, Lefel 2, 3 a 4
Nod y Brentisiaeth hon yw rhoi cyfle i chi ddatblygu sgiliau a phrofiadau gwerthfawr sy'n berthnasol i'r gwaith. Rydym wedi ymrwymo i'ch helpu i symud ymlaen. Rydym yn cydnabod y gall dechrau swydd newydd fod yn gyffrous ac yn frawychus ar yr un pryd; byddwn yn cynorthwyo pob prentis newydd drwy ddarparu:
• Rhaglen sefydlu, wedi'i chynllunio i'ch helpu i ddod i adnabod a deall sut rydym yn gweithio
• Amrywiaeth o brofiadau gwaith o fewn eich maes arbenigedd
• Mentor, i ddarparu cymorth wrth i chi symud ymlaen gydol eich Prentisiaeth
• Arweiniad ar wneud cais am swyddi a chystadlu mewn prosesau recriwtio
•
Cytundeb
Tymor Penodol o 3 Blynedd (Prentisiaeth)
•
Gradd
4
•
Cyflog
£25,583 - £25,989
•
Oriau Gwaith
37 awr yr wythnos
•
Cyfarwyddiaeth
Gwasanaethau Corfforaethol
•
Cyfeirnod y Swydd
505004
•
Lleoliad
Pencadlys, Llantrisant & ACT Training wedi'i leoli yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro