Ceredigion County Council
Cynorthwyydd Addysgu Lefel 3 - Arbenigedd Nam Clyw / Arbenigedd Arwyddiaith
Ysgol Dyffryn Aeron SA46 0PA
Key information
- Pay
- £26,403 - £27,694
- Hours
- Part-time
- Contract
- Permanent
- Posted date
- 16 Jul 2026
- Closing date
- 5 Aug 2026
About this role
Rydym am recriwtio Cynorthwy-ydd Dysgu Lefel 3 i ymuno â’n Tîm Gwasanaeth Synhwyraidd ADY ar sail dros dro, rhan amser (yn ystod y tymor yn unig) i fod yn seiliedig yn y ddarpariaeth adnoddau clyw arbenigol.
Am y rôl
O ddydd i ddydd, bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus gefnogi mynediad i ddysgu ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol/ymddygiadol difrifol/ dwys/arbennig gan gynnwys darparu cymorth meddygol penodol i mewn ac allan o’r ystafell ddosbarth ac mewn darpariaeth adnoddau. . Byddant yn cynnig cymorth ac arweiniad i, ac yn gweithio gydag ysgolion Ceredigion i gynorthwyo gyda throsglwyddo disgyblion rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd.
Rydym am recriwtio unigolyn sydd
- Yn gallu goruchwylio a darparu cefnogaeth i ddisgyblion, naill ai'n unigol neu mewn grwpiau, mewn gweithgareddau dysgu ystyrlon gan sicrhau eu diogelwch a mynediad i ddysgu.
- Yn gallu rhoi sylw i anghenion personol a chorfforol y disgybl
- Gallu cynorthwyo gyda chynllunio a chyflwyno gweithgareddau dysgu penodol mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd megis yn yr ystafell ddosbarth, mewn grwpiau bach neu ar lefel un-i-un.
- Yn gallu defnyddio strategaethau i gefnogi disgyblion i gyflawni nodau dysgu.
- Gallu sefydlu perthynas adeiladol a chyfathrebu ag asiantaethau/gweithwyr proffesiynol eraill i gefnogi cyflawniad a chynnydd disgyblion
- Yn gallu goruchwylio disgyblion ar ymweliadau, teithiau a gweithgareddau y tu allan i'r ysgol yn ôl yr angen gan ystyried iechyd, diogelwch a lles disgyblion, staff eraill a'r cyhoedd.
- Meddu ar y gallu i hunanwerthuso eu hanghenion dysgu eu hunain er mwyn ceisio chwilio am gyfleoedd dysgu
- Meddu ar sgiliau rhifedd/llythrennedd da
- Yn gallu gweithio'n adeiladol ac yn hyblyg fel rhan o dîm, gan ddeall rolau a chyfrifoldebau ystafell ddosbarth a'ch safle chi o fewn y rhain.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person [https://hreforms.ceredigion.gov.uk/ufs/jdps/REQ106804.pdf]
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Dr Louize A Miller drwy e-bost ar lam@penglais.org.uk neu 07773075522.
Noder
Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
For more details regarding this vacancy, please refer to the full job description on the Ceredigion County Council careers website.