Ceredigion County Council

Uwch Ymarferydd - Therapydd Galwedigaethol

Ysgol Dyffryn Aeron SA46 0PA

Key information

Pay
£42,839 - £45,091
Hours
Full-time
Contract
Permanent
Posted date
16 Jul 2026
Closing date
5 Aug 2026

About this role

Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.

Gall yr ymgeisydd llwyddiannus fod yn gymwys i hyd at uchafswm o £8,000 (gan gynnwys TAW) tuag at gost y treuliau a dynnir oherwydd adleoli i Geredigion. Am fwy o wybodaeth, anfonwch e-bost at adnoddaudynol@ceredigion.gov.uk. Am fwy o wybodaeth am sir Ceredigion a’r ffordd o fyw ragorol y mae’n ei gynnig, cliciwch yma [https://careers.ceredigion.gov.uk/cy/bywyd-ceredigion/ffordd-o-fyw/].

Ydych chi'n angerddol am ddefnyddio Therapi Galwedigaethol i helpu pobl i fyw bywydau mwy ystyrlon? Ydych chi'n gwerthfawrogi gweithio mewn sefydliad blaengar sy'n canolbwyntio ar les? Ydych chi'n barod i gymryd rôl arweiniol sy'n bwysig? Os ydych, darllenwch ymlaen.

Yn dilyn adolygiad diweddar o'r gwasanaethau Therapi Galwedigaethol o fewn Cyngor Sir Ceredigion, mae strwythur gwasanaeth newydd wedi'i ddatblygu. Mae rolau uwch therapydd galwedigaethol Oedolion a Phediatrig bellach yn dod o dan yr un strwythur rheoli o fewn model llesiant gydol oes Ceredigion.

Mae dod â’r gwasanaethau Oedolion a Phediatreg ynghyd yn ymgais newydd. Felly, bydd disgwyl hyblygrwydd yn eich dull o weithredu a bod yn angerddol am ddatblygu gwasanaeth. Wrth i'r gwasanaeth aeddfedu, bydd y tîm yn dod yn fwy integredig ac mae'r ffiniau rhwng gwasanaethau oedolion / plant yn debygol o orgyffwrdd wrth i'r broses gyffrous hon fynd rhagddi.

Rydym yn angerddol am y gwasanaeth o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a ddarparwn i bobl Ceredigion a'r persbectif unigryw y mae ein proffesiwn yn ei roi i'r sefydliad ehangach. Credwn fod gan bobl yr hawl i gyrraedd eu llawn botensial ym mhob cyfnod o fywyd.

Fel tîm rydym yn falch o'n diwylliant cefnogol ac yn ceisio rhannu ein cryfderau, ein sgiliau proffesiynol, a'n gwybodaeth eang – yn ein gwasanaeth therapydd galwedigaethol uniongyrchol a chyda chydweithwyr y tîm amlddisgyblaethol.

Fel uwch ymarferydd gallwch ddisgwyl cael goruchwyliaeth broffesiynol reolaidd ac amser wedi'i ddiogelu o ran datblygiad proffesiynol parhaus.

Eich ffocws yn y tîm fydd

  • Rhoi cymorth clinigol, arweiniad, a goruchwyliaeth ffurfiol i therapyddion galwedigaethol a chynorthwywyr therapyddion galwedigaethol sy'n cario llwyth achosion cymunedol.
  • Sgrinio a blaenoriaethu atgyfeiriadau newydd.
  • Gweithio'n glinigol gyda defnyddwyr gwasanaethau sydd â'r anghenion mwyaf cymhleth.
  • Cynorthwyo rheolwr y tîm i amlygu ac ailadrodd arferion gorau clinigol o fewn y tîm.
  • Nodi, cyfrannu at ac arwain ar brosiectau datblygu gwasanaethau.
  • Cynorthwyo gyda dull o asesu a darparu gwasanaethau sydd bob amser yn gwella.
  • Mynd ati yn agored, trawsgyflenwi rhwng rolau uwch Oedolion / Pediatrig os oes angen.
  • Cyflwyno hyfforddiant tîm yn ôl yr angen a modelu datblygiad proffesiynol parhaus yn ymarferol.
  • Parhau i adeiladu ar ddatblygiadau cyffrous diweddar o ran gwasanaethau a threfniadaeth mewn meysydd fel:
  • Ymarfer clinigol sy'n datblygu
  • Gofal a alluogir gan dechnoleg
  • Trin â llaw ar sail tystiolaeth (gan ryddhau amser i ofalu)
  • Canolfan Penmorfa ar gyfer Byw'n Annibynnol (adnodd cymunedol)

Mae rôl therapi galwedigaethol cymunedol yn amrywiol, ein nod yw grymuso pobl i wneud y mwyaf o'u hannibyniaeth eu hunain wrth ddefnyddio adnoddau'n deg ac yn gyfrifol, yn unol â'n cyfrifoldebau proffesiynol a deddfwriaethol. Mae ein tîm yn arbenigwyr mewn

  • Addasiadau
  • Technegau ac offer trin â llaw
  • Asesiad swyddogaethol
  • Grymuso pobl sydd â chyflyrau hirdymor cymhleth
  • Defnyddio dulliau cydadferol, adsefydlu ac sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
  • Gweithio mewn tîm amlddisgyblaethol
  • Nodi ffyrdd arloesol newydd o helpu pobl i fyw bywydau mwy ystyrlon.

Fel Uwch Ymarferydd byddwch yn hyderus yn eich sgiliau asesu clinigol; yn gallu esbonio pam a sut rydych chi'n gwneud penderfyniadau. Byddwch yn broffesiynol hunanymwybodol, gan wybod ble mae eich cymwyseddau eich hun yn dechrau ac yn gorffen. Byddwch gennych lwyddiant blaenorol o gefnogi a goruchwylio staff therapi galwedigaethol / staff cymorth eraill yn llwyddiannus. Byddwch yn meddu ar sgiliau trefnu cryf. Yn bennaf oll, dylech fod yr un mor angerddol â ni am arloesi, gwaith tîm a darparu gwasanaeth o safon sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Rydym yn gweithio fel tîm, rydym yn gwerthfawrogi pwysigrwydd cyfraniad pob aelod o'r tîm.

Os ydych yn rhannu ein gwerthoedd, cysylltwch â ni i drafod y cyfle cyffrous hwn, neu gwnewch gais nawr.

Mae’r rolau hyn yn elwa o

  • Weithio Hybrid (potensial i weithio gartref ac yn y swyddfa, mae angen teithio o fewn y sir hefyd)
  • Amser hyblyg
  • Grant ariannol dewisol hael i gefnogi'r ymgeisydd cywir i adleoli i Geredigion.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person [https://hreforms.ceredigion.gov.uk/ufs/jdps/REQ106802.pdf]

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion [https://pecyn.careers.ceredigion.gov.uk/]

Am fwy o wybodaeth neu os hoffech drafod y cyfle hwn, cysylltwch â: Steven Elliott, Rheolwr Tîm, trwy ebost steven.elliott@ceredigion.gov.uk

Noder

Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

For more details regarding this vacancy, please refer to the full job description on the Ceredigion County Council careers website.