Ceredigion County Council

Cynorthwyydd Tai - Y Gofrestr Tai

Ysgol Dyffryn Aeron SA46 0PA

Key information

Pay
£26,403 - £27,694
Hours
Full-time
Contract
Permanent
Posted date
16 Jul 2026
Closing date
5 Aug 2026

About this role

Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.

Rydym am recriwtio Cynorthwyydd Tai – Y Gofrestr Tai i ymuno â'n Gwasanaeth Tai.

Bod yn gyfrifol am weinyddu’r Gofrestr Tai Cyffredin, gan gynnwys rhoi cyngor i’r rheini sy’n gwneud cais am dai, ac asesu ceisiadau am dai yn unol â’r polisïau a’r ddeddfwriaeth.

Sicrhau bod y Gofrestr Tai yn gweithredu’n effeithlon, gan gynnwys y weithdrefn enwebu yn ôl y gofyn.

O ddydd i ddydd byddwch yn

  • Ymchwilio i geisiadau a’u hasesu i sicrhau bod modd cyflawni dyletswyddau’r gwasanaeth tai yn unol â’r polisïau a’r ddeddfwriaeth, a hynny o dan arweiniad yr Uwch-swyddog Tai
  • Darparu cyngor a chymorth i’r cyhoedd yn y maes gwaith
  • Cyfathrebu’n broffesiynol ac yn empathetig â’r cyhoedd, gan roi gwybod iddynt am hynt eu ceisiadau a rhoi cyngor pellach iddynt
  • Cydweithio â rhannau eraill o’r gwasanaeth tai i sicrhau bod gwasanaeth integredig ac effeithlon yn cael ei ddarparu

Rydym am recriwtio unigolyn

  • Unigolyn disgybledig â chymhelliad cryf
  • Gallu defnyddio sgiliau dadansoddi i asesu’r dulliau o weithio, i gasglu gwybodaeth, ac i wneud penderfyniadau
  • Ymrwymiad i roi polisïau, nodau ac amcanion y Cyngor ar waith
  • Ymrwymiad cadarn i ddarparu gwasanaeth i’r cyhoedd
  • Sgiliau TG da
  • Ymrwymiad y gellir ei ddangos i ofalu am gwsmeriaid, ynghyd â natur gyfeillgar a pharodrwydd i helpu
  • Gallu cadw gwybodaeth gyfrinachol
  • Sgiliau cyfathrebu da

Yn ogystal â'r uchod, rydym yn gofyn am unigolyn sydd â lefel o ruglder yn y Gymraeg. Bydd ymgeisydd llwyddiannus heb y sgil Gymraeg ofynnol yn cael cefnogaeth lawn i gyrraedd y safon a ddymunir cyn pen dwy flynedd o'i benodi.

Yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion gweithwyr i chi gan gynnwys cynllun oriau hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol a chynllun cyfraniadau pensiwn hael. Mae mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr i'w gweld yma. Yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cefnogaeth i'ch galluogi i gymryd perchnogaeth yn gyflym ac yn hyderus o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi'ch datblygiad er mwyn i chi allu symud ymlaen â'ch gyrfa gyda ni.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person [https://hreforms.ceredigion.gov.uk/ufs/jdps/REQ106800.pdf]

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion [https://pecyn.careers.ceredigion.gov.uk/]

Os hoffech wybodaeth bellach am y rôl hon, cysylltwch â: Cerys Purches-Phillips, cerys.purches-phillips@ceredigion.gov.uk

Noder

Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

For more details regarding this vacancy, please refer to the full job description on the Ceredigion County Council careers website.