Ceredigion County Council

Technegydd Cefnogi Gwasanaeth TGCh

Ysgol Dyffryn Aeron SA46 0PA

Key information

Pay
£31,537 - £33,699
Hours
Full-time
Contract
Permanent
Posted date
16 Jul 2026
Closing date
5 Aug 2026

About this role

Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.

Os ydych chi’n cael eich ysgogi trwy ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid o’r radd flaenaf ac wedi ymrwymo i wella profiad y cwsmer yna hoffem glywed gennych.

Rydym yn chwilio am swyddog Cymorth TGCh brwdfrydig i ymuno â’n tîm cefnogi TGCh. Fel Swyddog Cefnogi TG

Ch byddwch

  • yn cefnogi systemau TGCh gan gynnwys gweinyddwyr, cyfrifiaduron, gliniaduron, iPads, Chromebooks ac offer TGCh eraill yn ôl yr angen;
  • yn gweithredu fel cymorth llinell gyntaf i ddefnyddwyr ar y safle a chefnogi staff a disgyblion â’u materion TGCh;
  • â phrofiad blaenorol o gefnogaeth TGCh a dealltwriaeth dda o rwydweithiau a systemau TG;
  • cymhwyso sgiliau rhesymegol a chreadigol i gefnogi a datblygu systemau;
  • bod yn gwrtais, yn hawdd mynd ato a’r agwedd I allu gwneud.

Bydd y swydd wedi’i lleoli yn Penmorfa, Aberaeron, tra hefyd yn ymgymryd â dyletswyddau mewn ysgolion a lleoliadau eraill a gefnogir yn ôl yr angen.

Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol.

Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch diddordeb, byddwn yn cynnig cyfle i weithio mewn sefydliad blaengar ac uchelgeisiol. Ar ben hynny, bydd gennych chi:

  • hyd at 34 diwrnod o ddiwrnodau gwyliau blynyddol y flwyddyn (ynghyd â 8 gwyliau cyhoeddus);
  • trefniadau gweithio hyblyg;
  • cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol;
  • cyfleoedd dysgu a datblygu;
  • cynlluniau aberthu cyflog, gan gynnwys y cynllun Beicio i’r Gwaith;
  • mentrau Iechyd a Lles gan gynnwys aelodaeth gostyngedig i’n canolfannau hamdden lleol;
  • arbedion arddull bywyd a cherdyn Vectis a llawer mwy.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person [https://hreforms.ceredigion.gov.uk/ufs/jdps/REQ106798 2.pdf]

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion [https://pecyn.careers.ceredigion.gov.uk/]

Cysylltwch â ni

Am wybodaeth pellach a thrafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r swydd hon cysylltwch â

Matthew Bennett

07866855397 neu matthew.bennett@ceredigion.gov.uk.

Noder

Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

For more details regarding this vacancy, please refer to the full job description on the Ceredigion County Council careers website.