South Wales Fire and Rescue Service • CF72 8LX

Rheolwr Cynllunio, Perfformiad a Risg

About this role

Dylech chi gyflwyno eich cais erbyn 03.06.2026 am hanner dydd.

Disgwylir i'r rhestr fer gael ei llunio: w/c 06.07.2026

Disgwylir

I’r cyfweliadau gael eu cynnal

w/c 13.07.2026

Cododd gyfle cyffrous i benodi Rheolwr Cynllunio, Perfformiad a Risg o fewn y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Corfforaethol a leolir ym Mhencadlys y Gwasanaeth Tân ac Achub.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am reoli'r tîm Cynllunio, Perfformiad a Risg. Bydd prif ddyletswyddau'r swydd yn cynnwys rheoli, datblygu, gweithredu, cynnal a chadw ac adolygu'r swyddogaethau allweddol canlynol:

  • Rheoli cynllunio, perfformiad a risg y Gwasanaeth
  • Sicrhau bod adroddiadau strategol statudol, sy'n cynnwys Cynllun Rheoli Risg Cymunedol y Wasanaeth a’r Cynllun Gwella Blynyddol, yn cael eu cynhyrchu yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
  • Rheoli a chydlynu systemau data a gwybodaeth sefydliadol berthnasol.
  • Goruchwylio bod yr holl ffurflenni data/gwybodaeth ac adroddiadau'n cael eu paratoi, eu dilysu a'u cyflwyno i'r awdurdodau perthnasol.

Bydd deiliad y swydd yn datblygu dull adrannol wrth gorffori gwelliant parhaus ar hyd y Gwasanaeth.

Bydd y swydd heriol hon yn gofyn bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n gydweithredol â phersonél Gwasanaethau Tân ac Achub eraill ac felly mae'r gallu i deithio'n ofynnol.

Cytundeb

Parhaol

Gradd

13

Cyflog

£42,839– £44,075

Oriau Gwaith

37 awr yr wythnos

Cyfarwyddiaeth

Perfformiad Gwasanaeth

Cyfeirnod Swydd

NU285

Lleoliad

Pencadlys Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Parc Busnes Forest View, Llantrisant, CF72 8LX